Mark 10

Ysgariad

(Mathew 19:1-12; Luc 16:18)

1Yna gadawodd Iesu'r fan honno, a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi'n eu dysgu.

2Dyma rhyw Phariseaid yn dod ato i geisio'i faglu drwy ofyn: “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod yn iawn i ddyn ysgaru ei wraig?”

3Atebodd Iesu, “Beth oedd y gorchymyn roddodd Moses i chi?”

4“Dwedodd Moses ei fod yn iawn,” medden nhw, “Dim ond i ddyn roi tystysgrif ysgariad iddi cyn ei hanfon i ffwrdd.” a

5“Wyddoch chi pam ysgrifennodd Moses y ddeddf yna?” meddai Iesu. “Am fod pobl fel chi mor ystyfnig! 6Pan greodd Duw bopeth ar y dechrau cyntaf, gwnaeth bobl ‘yn wryw ac yn fenyw’. b 7‘Felly bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn cael ei uno â'i wraig, 8a bydd y ddau yn dod yn un.’ c Dim dau berson ar wahân ydyn nhw wedyn, ond uned. 9Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno!”

10Pan oedden nhw yn ôl yn y tŷ, dyma'r disgyblion yn holi Iesu am hyn 11Dwedodd wrthyn nhw: “Mae unrhyw un sy'n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu.” 12(Ac os ydy gwraig yn ysgaru ei gŵr er mwyn priodi dyn arall, mae hithau'n godinebu.)

Iesu a'r plant bach

(Mathew 19:13-15; Luc 18:15-17)

13Roedd pobl yn dod â'u plant bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond roedd y disgyblion yn dweud y drefn wrthyn nhw. 14Roedd Iesu'n ddig pan welodd nhw'n gwneud hynny. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw. 15Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.” 16Yna cododd y plant yn ei freichiau, rhoi ei ddwylo arnyn nhw a'u bendithio.

Y dyn ifanc cyfoethog

(Mathew 19:16-30; Luc 18:18-30)

17Pan oedd Iesu ar fin gadael, dyma ddyn yn rhedeg ato a syrthio ar ei liniau o'i flaen. “Athro da,” meddai, “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”

18“Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu, “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda? 19Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid llofruddio, paid godinebu, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, paid twyllo, gofala am dy dad a dy fam.’ d

20Atebodd y dyn, “Athro, dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.”

21Roedd Iesu wedi hoffi'r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”

22Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.

23Dyma Iesu'n troi at ei ddisgyblion a dweud, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!”

24Roedd y disgyblion wedi eu syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! 25Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”

26Roedd y disgyblion yn rhyfeddu fwy fyth, ac yn gofyn i'w gilydd, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”

27Dyma Iesu'n edrych arnyn nhw, a dweud, “Mae'r peth yn amhosib i bobl ei wneud, ond mae Duw yn gallu! Mae Duw'n gallu gwneud popeth!”

28Yna dyma Pedr yn dechrau dweud, “Ond dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di!”

29“Credwch chi fi,” meddai Iesu, “Bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael brodyr a chwiorydd, mam neu dad, neu blant neu diroedd er fy mwyn i a'r newyddion da 30yn derbyn can gwaith cymaint yn y bywyd yma! Bydd yn derbyn cartrefi, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a thiroedd – ac erledigaeth ar ben y cwbl. Ond yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol! 31Ond bydd llawer o'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn, a'r rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen.”

Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw

(Mathew 20:17-19; Luc 18:31-34)

32Roedden nhw ar eu ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu'n cerdded ar y blaen, a'r disgyblion yn ei ddilyn, ond wedi eu syfrdanu ei fod yn mynd yno. Roedd pawb arall oedd yn ei ddilyn yn ofni'n fawr. Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr eto i ddweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo. 33“Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem,” meddai, “Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'r prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Byddan nhw'n rhoi dedfryd marwolaeth arna i, ac yna'n fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid.
10:33 Rhufeiniaid: Groeg, “estroniaid”.
34Bydd y rheiny yn gwneud sbort ar fy mhen, yn poeri arna i, yn fy chwipio a'm lladd. Ond yna, dau ddiwrnod wedyn, bydda i'n dod yn ôl yn fyw.”

Cais Iago ac Ioan

(Mathew 20:20-28)

35Aeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, i siarad â Iesu. “Athro, dŷn ni eisiau gofyn ffafr,” medden nhw.

36“Beth ga i wneud i chi?” gofynnodd.

37Dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni eisiau cael eistedd bob ochr i ti pan fyddi'n teyrnasu.”

38“Dych chi ddim yn gwybod am beth dych chi'n siarad!” meddai Iesu. “Allwch chi yfed o'r un gwpan chwerw
10:38 yfed o'r un gwpan chwerw: Symbol o ddioddef.
â mi, neu gael eich bedyddio â'r un bedydd â mi?”

39“Gallwn,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Byddwch chi'n yfed o'r un gwpan â mi, a chewch eich bedyddio â'r un bedydd a mi, 40ond dim fi sydd i ddweud pwy sy'n cael eistedd bob ochr i mi. Mae'r lleoedd hynny wedi eu cadw i bwy bynnag mae Duw wedi eu dewis.”

41Pan glywodd y deg disgybl arall am y peth, roedden nhw'n wyllt gyda Iago ac Ioan. 42Felly dyma Iesu'n eu galw nhw i gyd at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod sut mae'r pwysigion sy'n llywodraethu'r cenhedloedd yn ymddwyn – maen nhw wrth eu bodd yn dangos eu hawdurdod ac yn ei lordio hi dros bobl. 43Ond rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'r sawl sydd am arwain ddysgu gwasanaethu, 44a phwy bynnag sydd am fod yn geffyl blaen fod yn was i bawb arall. 45Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl.”

Bartimeus yn cael ei olwg

(Mathew 20:29-34; Luc 18:35-43)

46Dyma nhw'n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a'i ddisgyblion allan o'r dref, a dyma nhw'n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd – Bartimeus oedd enw'r dyn (hynny ydy, ‛mab Timeus‛). 47Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”

48“Cau dy geg!” meddai rhai o'r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!”

49Dyma Iesu'n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai. Felly dyma nhw'n galw'r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae'n galw amdanat ti. Tyrd!” 50Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu.

51Dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?”

“Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”

52Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.

Copyright information for CYM